...if you have faith as small as a mustard seed
...nothing is impossible ...by prayer
Matthew 17:20-21

Yr Hedyn Mwstard

Caffi a Siop Llyfrau Cristnogol

English Cymreig

Croeso i’r Caffi Hadau Mwstard

Fe’n lleolir ni yng nghanol tref Llanbed ar Stryd y Coleg, gyferbyn â’r Brifysgol.

Mae tair ardal benodol o wasanaeth o fewn Yr Hedyn Mwstard. Y siop goffi ei hun yw’r brif ardal. Gwnawn bob ymdrech i ddarparu’r amgylchedd gorau posibl, gan obeithio y teimlwch fod popeth yn l ân ac yn ddeniadol, ac ar yr un pryd fod awyrgylch cartrefol yn Yr Hedyn Mwstard. Rhown flaenoriaeth i ddarparu bwyd cartref a hefyd i ddefnyddio darparwyr lleol. O fewn y siop goffi mae gennym ardal chwarae ar wahân ar gyfer y plant, gyda nifer o lyfrau, gemau ac ati i’w cadw nhw’n hapus tra eich bod chi’n mwynhau eich amser gyda ni.

Drwy’r siop goffi, yn y cefn, mae gennym Stondin Lyfrau Cristnogol sydd yn gwerthu nid yn unig lyfrau da ond hefyd ddewis o gardiau cyfarch a chrefftau lleol. Yma, mae gennym yn ogystal le i ymlacio, yfed coffi neu de a chael bwyd tra’n darllen neu sgwrsio mewn ardal eistedd gyfforddus. Os bydd y tywydd yn braf, a ninnau â digon o staff, gallwch wneud hynny allan ar y patio yn y cefn.

Pan fo angen yn codi bydd yr ystafell gyfarfod yn y cefn hefyd yn cael ei defnyddio fel rhan o’r siop goffi. Drwy apwyntiad ymlaen llaw, mae’n bosibl llogi’r ystafell hon ar gyfer cyfarfodydd neu giniawau ar wahân.