English Cymreig

Ynglŷn â'r Mwstard Seed

Sefydlwyd Yr Hedyn Mwstard i fod yn ddolen gyswllt rhwng yr eglwys a’r gymuned seciwlar. Ceisiwn ei wneud yn lle o ragoriaeth er mwyn mynegi ein cariad tuag at Iesu Grist a’n dyhead i’w anrhydeddu ac i ymddiried ynddo. Drwy wasanaethu Duw yn y gymuned, yr ydym am arddangos cariad Duw mewn modd ymarferol, a hybu eglwys Dduw’n lleol ac yn fyd-eang, er Ei ogoniant.

Mae ein dogfen Ymddiriedolaeth / Comisiwn Elusennau yn datgan mai nodau ac amcanion yr Ymddirieolaeth yw:

(1) Hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol ac, yn benodol, drwy ddarparu llenyddiaeth Gristnogol mewn amryw gyfryngau.

(2) Hybu unrhyw bwrpas elusennol arall er lles y gymuned yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru drwy hyrwyddo addysg, diogelu iechyd a rhyddhau oddi wrth dlodi ac afiechyd fel mynegiant o’r Ffydd Gristnogol.

Yn Yr Hedyn Mwstard rydym yn ceisio cynhyrchu a gwerthu bwyd o ansawdd uchel. Rydym yn torri I lawr ar filltiroedd ac yn cefnogi’r economi leol trwy ddefnyddio cynnyrch lleol pan fo hynny’n bosibl.