Gwasanaethau a Chyfleusterau
Yr ydym yn cyflogi tri pherson ifanc yn llawn amser a hefyd ryw ddau neu fwy yn rhan amser. Gallwn, felly, gyfrannu’n fywiol tuag at yr economi lleol. Mae’r staff eraill, nifer dda ohonynt, yn wirfoddolwyr ac yn rhoi o’u hamser, arbenigedd ac egni yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n cynnwys nid yn unig nifer o bobl leol ond hefyd fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y brifysgol yn Llanbed.
Os ydych yn dymuno bod yn gysylltiedig â’r fenter mewn unrhyw ffordd, boed hynny drwy gynnig eich amser, talent neu drysor (neu unrhyw gyfuniad o’r rhain), cysylltwch â ni fel a ganlyn os gwelwch yn dda, neu siaradwch ag unrhyw un o’r staff.