Gwasanaethau a Chyfleusterau
Cyfleusterau’r Ystafell Gyfarfod
Mae ystafell gyfarfod Yr Hedyn Mwstard yn lle cryno ar y llawr gwaelod ac mae ar gael i’w llogi gan grwpiau a chymdeithasau addas. Yr uchafswm y gall yr ystafell ei ddal o ran niferoedd yw 30.
Yr anabl
Gobeithiwn ddefnyddio’r Ganolfan i ddangos fod y ffordd Gristnogol o fyw yn well nag unrhyw beth y mae dyn yn medru ei gynllunio. Mae’r ymddiriedolwyr ar hyd yr amser wedi ystyried y dylai pob aelod o’r gymuned gael mynediad, beth bynnag yw eu cyfyngiadau corfforol.
Ni wnaeth yr Iesu byth, byth wrthod unrhyw un ar sail anabledd, ac un o gysyniadau Yr Hedyn Mwstard yw bod yr egwyddor hon yn cael ei chynnal a’i hyrwyddo.
Mae mynediad cadair olwyn yn bosibl i bob rhan o’r siop goffi, gan gynnwys yr ystafell gyfarfod, y patio a’r cyfleusterau toiledau.Yr ydym am annog yr anabl i gyfranogi’n llawn o’r cyfan a gynigiwn.