English Cymreig

Ynglŷn â Llanbedr Pont Steffan

Ffurf Saesneg ar “Llanbedr”, sef eglwys Pedr, yw “Lampeter” wrth gwrs. Sefydlwyd y dref ei hun yng nghyfnod y Normaniaid, yn ôl pob tebyg. Yn 1137 ymosododd Owain Lawgoch, Tywysog Gwynedd, ar Geredigion gan ddinistrio castell mwnt a beili Llanbed. Yn 1188 pregethodd Gerallt Gymro a’r Archesgob Baldwin (Archesgob Caergaint) yma i geisio perswadio dynion i ymuno â’r Ail Grwsâd.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yn ddyddiau enbyd ar y ffydd Gristnogol, ond yn y ganrif ddilynol daeth y Diwygiad Mawr, a arweiniwyd yng Nghymru gan Howell Harris, Daniel Rowland (a oedd yn byw yn Llangeitho, dim ond 8 milltir o Lanbed) a William Williams. Ymwelodd Howell Harris â’r dref lawer tro a soniodd ei fod wedi “pregethu i dyrfaoedd enfawr ar y stryd yn Llanbed”.

Mae’r boblogaeth heddiw tua 2,500 (yn 1728 amcangyfrifwyd mai 300 oedd yn byw yma). Mae Llanbed erioed wedi cynnal ei Chymreictod, hyd yn oed o’r dechrau (allan o 21 o fwrgeiswyr yn 1302-03, dim ond dau oedd heb fod o dras Gymreig). Mae’r iaith Gymraeg a’I diwylliant yn dal i chwarae rhan allweddol ym mywyd cymdeithasol ac economaidd y dref heddiw. Yn 1822 ychwanegwyd deimensiwn newydd i fywyd y dref gyda sefydlu Coleg Dewi Sant (Prifysgol Llanbed erbyn hyn), sef y sefydliad prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt. Mae’n parhau i wneud cyfraniad pwysig i’r dref.

Cychwynnwyd Eglwys Efengylaidd Llanbed yn 1981, ac ar y dechrau cysylltwyd hi â Thŷ Brasil, canolfan genhadol ym Mhumsaint (ryw 10 milltir o Lanbed). O’r dechreuadau hynny, er gwaethaf nifer o newidiadau, mae wedi tyfu’n sylweddol, a’n gweddi yw y bydd Duw’n dal i’n bendithio ni fel cynulleidfa. Cynhelir ein cyfarfodydd yn Neuadd Fictoria, Llanbed (fel y gwelir ar y map syml ar y tudalennau canol).

Agorwyd Yr Hedyn Mwstard, sef Canolfan Gristnogol Llanbed, gan grwˆp o Gristnogion yn Stryd y Coleg rai blynyddoedd yn ôl. Ar wahân i’r siop goffi, y stondin lyfrau Cristnogol a chrefftau lleol, a’r ystafell gyfarfod, mae rhai myfyrwyr o Gristnogion yn lletya ar y llawr cyntaf hefyd. O fewn pellter car o Lanbed mae gennym nifer o amwynderau megis Middleton – Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru, Llanerchaeron, Crochenwaith Gwili, Canolfan Grefftau Aberaeron, Gerddi Aberglasni, Abaty Ystrad Fflur, Abaty Talyllychau, Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Castell Carreg Cennen ac ati. Mae taflenni ar gael yn y siop goffi pe baech chi am gael mwy o wybodaeth ynghylch yr amwynderau amrywiol sydd o fewn yr ardal.